Pam fod ein cymdeithasau'n dod ar wahân a sut rydyn ni'n eu rhoi yn ôl at ei gilydd eto


Location: Eventbrite

Share

Ymunwch â Jon Yates mewn trafodaeth ryngweithiol ar pam mae ein cymdeithasau yn dod ar wahân a'r camau y gallwn eu cymryd i'w rhoi at ei gilydd eto.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn:

Mae Academi Acumen, y mae Eifion Williams o amgylch yr Economi Gylchol yn gymrawd ohono, yn cynnal y drafodaeth ryngweithiol hon (a Holi ac Ateb) gyda Chymrawd Acumen, awdur a Chyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa Waddol Ieuenctid, Jon Yates. Ar adeg o ymrannu ac ansicrwydd, yn ei lyfr newydd ‘Fractured’ mae Jon yn archwilio’r rhesymau y tu ôl i ddatgysylltiad ein cymdeithasau a’r camau y gallwn eu cymryd i bontio ein rhaniadau.

Archebwch set, yn rhad ac am ddim, yma ar Eventbrite. Gan fod pob un o raglenni presennol a dyfodol Economi Gylchol Cymru wedi’I gynllunio i ail-adeiladu’r gymuned ac yn adfywiol yn eu natur, rydym yn hapus iawn i hyrwyddo'r digwyddiad hwn.

Ymunwch â'r sesiwn rithiol oleuedig hon ar yr 8fed o Fedi sy'n cynnwys:

  • Delio â syndrom “pobl fel fi” a chreu “bywyd cyffredin” newydd
  • Ateb eich cwestiynau gan awdur ‘Fractured’, Jon Yates
  • Adeiladu cysylltiadau newydd â phobl o bob sector a lle
  • Ydych chi am ddod o hyd i dîm ar gyfer cyrsiau Academi Acumen yn y dyfodol?

Arhoswch gyda ni ar ôl y digwyddiad - 6:30 pm i 6:45 pm - i ddysgu mwy am ein cyrsiau tîm sydd ar ddod: Adrodd Straeon ar gyfer Newid, Arweinyddiaeth Addasol, Llwybr Arweinyddiaeth Foesol - a dod o hyd i'ch tîm i gychwyn eich taith ddysgu.

Cysylltwch
Cylchlythur

Cadwch yn gyfoes

gyda'r newyddion a'r arloesi diweddaraf

Cofrestru