Trysori Plastig Cymru – Chwyldro Cymreig ym maes Ailgylchu!
Mae pobl Cymru'n wych am roi adnoddau i gael eu casglu ar gyfer ailgylchu. Ond a yw'n plastig yn cael ei ddidol i bolymerau sengl a'i ailddefnyddio? Mae'r darlun yn un cymysg, gwaetha'r modd; yn llythrennol yn dipyn o gymysgfa. Wyddoch chi fod yna saith math gwahanol o blastig yn cylchdroi trwy ein tai bob wythnos? Pan maent ar wahân mae posib creu rhywbeth ohonynt, pan fyddant i gyd yn gymysg mae'n amhosib.
Gan nad yw ein gwahanol blastig yn cael ei ddidoli yn iawn mae llawer ohono yng Nghymru yn dal i gael ei losgi a'i ddinistrio, ei ddifa'n llwyr; er ein bod yn ei roi yn y biniau i'w ailgylchu. Mae canran fechan yn cael ei ailgylchu yma yng Nghymru, ac yn y tymor hir byddai'r mentrau hynny'n elwa petai gwahanu'r gwahanol bolymerau yn dod yn arfer cyffredin. Er mwyn cyrraedd y sefyllfa hon mae angen cynyddu ein hymwybyddiaeth fel cenedl a phrofi'r manteision real: dyma le mae Trysori Plastig Cymru yn camu ar y llwyfan!
Yn y tymor hir, wrth i ni adeiladau mwy o gyfleusterau Trysori Plastig cymunedol bydd Cymru yn dod yn arweinydd Llythrennedd Polymer! Bydd Cymru, o gymryd y camau iawn i'r cyfeiriad hwn nawr, yn gallu troi'r 'Broblem Blastig' yn ddatrysiad, ac yn ddatrysiad a fydd yn dod â budd i ni gyd.
Sut lefydd fydd y gweithdai?
Bydd y gweithdai wedi'u lleolli mewn cynhwysyddion cludo, a fydd wedi'u brandio, eu leinio ac yn cyrraedd gofynion diogelwch; a byddant yn galluogi pobl o bob oed i lanhau'r plastig, ei droi'n sglodion, ac yna cynllunio a chreu gwrthrychau plastig newydd gan ddefnyddio mowld neu argraffydd 3D.
Gall y gwrthrychau hyn gynnwys casys iPhone, offer cegin, arfau, cynwysyddion, darnau ar gyfer waliau dringo ac offer chwaraeon eraill. Ond mae yna filoedd o eitemau defnyddiol yn aros i gael eu gwneud ac mae'r rhestr yn cael ei datblygu trwy'r adeg gan rwydwaith fyd eang Trysori Plastig.
Ymholiadau cyffredinol neu ymholiadau gan y wasg neu olygyddion ayyb:
eifion@circularcommunities.cymru
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf, arwyddwch isod: